Rheilffordd Hejaz

Rheilffordd Hejaz
Llwybr hanesyddol Rheilffordd yr Hejaz yn 1914
Llwybr hanesyddol Rheilffordd yr Hejaz yn 1914
Map o reilffyrdd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar gychwyn y RhB1
Map o reilffyrdd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar gychwyn y RhB1
Trên trosglwyddo ffosffad i borthladd Aqaba yn Iorddonen
Trên trosglwyddo ffosffad i borthladd Aqaba yn Iorddonen

Rheilffordd cledrau cul (rheilffordd 1,050 mm) yw Rheilffordd Hejaz a gysylltodd dinas Damascus yn Syria â dinas Medina. Mae'r rheilffordd yn croesi Hijaz, rhanbarth o ogledd-orllewinol Arabia Sawdi. Roedd sbardyn bychan oddi ar brif linell y rheilffordd i'w gysylltu gyda phorthladd Haifa oedd, y pryd hynny'n rhan o'r Ymerodraeth ond sydd bellach yn ddinas yn Israel. Adeiladwyd y rheilffordd dan arweiniad Swltan Abdul Hamid II, rheolwr Ymerodraeth yr Otomaniaid ac o dan oruchwiliaeth Ahmed Izzat al-Abed. Roedd y prosiect uchelgeisiol hwn yn uno rhannau o Ymerodraeth yr Otomaniaid oedd yn un wladwriaeth, ond sydd bellach yn croesi tair ffin wladwriaethol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search